Members area

Loading...

Register

Don't have a login?

Join us

Become a member

  • Connect with others through events, workshops, campaigns and our NEW online forum, Your Community
  • Discover information and insights in our resource hub and receive the latest updates via email
  • Access one-to-one support and tailored services which help reduce barriers for deaf children
Menu Open mobile desktop menu

Dywedwch wrthym am eich profiadau o Athrawon Plant Byddar

Rydym yn credu y dylai pob plentyn byddar neu blentyn sydd â cholled clyw gael mynediad at y cymorth sydd angen arnynt o’r cychwyn cyntaf.

Mae Athrawon Plant Byddar (ToD) yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi plant a phobl ifanc byddar, a’u teuluoedd. Rydym am ddeall mwy am eu heffaith.

Beth yw Athro Plant Byddar?

Mae Athrawon Plant Byddar yn achubiaeth i nifer o deuluoedd. Maent wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i ddarparu cymorth arbenigol i blant byddar o bob oed. Maent yn chwarae rôl hanfodol mewn bywydau plant byddar, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar hollbwysig  - gan eu helpu i ffynnu yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol.

Sut y gallaf gael Athro Plant Byddar i fy mhlentyn?

Gweler y dolenni isod am fwy o wybodaeth am Athrawon Plant Byddar yn eich gwlad.

Sut allaf i helpu?

Rydym am i brofiadau plant a phobl ifanc byddar, a’u teuluoedd, i fod wrth galon ein gwaith. Hoffem wybod am eich profiad o Athrawon Plant Byddar.

A oes gennych Athro Plant Byddar? Pe effaith maent wedi’i chael ar eich teulu? A hoffech fwy o gymorth gan Athro Plant Byddar?

Rhannwch eich profiadau a chymerwch ran. Bydd popeth rydych chi’n ei ddweud wrthym yn helpu ni benderfynu ar y ffordd orau o bwysleisio gwaith anhygoel Athrawon Plant Byddar ac i ymgyrchu dros fynediad at y cymorth cywir i bob plentyn byddar.