Members area

Loading...

Register

Don't have a login?

Join us

Become a member

  • Connect with others through events, workshops, campaigns and our NEW online forum, Your Community
  • Discover information and insights in our resource hub and receive the latest updates via email
  • Access one-to-one support and tailored services which help reduce barriers for deaf children
Menu Open mobile desktop menu

 

Byddar yn Gweithio ym Mhobman

Byddar yn Gweithio ym Mhobman yw ein hymgyrch newydd i gael mwy o bobl ifanc byddar mewn i waith – ac mewn i swyddi sy’n eu hysbrydoli.

I weld is-deitlau am y fideo uchod yn Gymraeg, cliciwch ar yr eicon “is-deitlau/capsiynau caeedig” ar y dde ar waelod y fideo.

Mae llawer o bobl ifanc byddar yn credu bod eu hopsiynau gyrfa yn gyfyngedig. Gyda’r gefnogaeth gywir gall pobl fyddar weithio ym mhobman, ond maent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na’u cyfoedion sy’n gallu clywed. Ond gall pobl fyddar fod yn gerddorion, meddygon a thrydanwyr – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Rydyn ni’n ymladd dros well cymorth gyrfaoedd, mwy o gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith, a herio disgwyliadau o’r hyn y mae pobl ifanc byddar yn gallu ei gyflawni.

Am y ffilm

Crëwyd y ffilm ac enw’r ymgyrch mewn partneriaeth gyda phobl ifanc byddar ledled y DU, i gicdanio’r sgwrs. Eu hymgyrch nhw yw hon. Hoffem ddiolch i bob un o’r modelau rôl byddar am gymryd rhan yn y ffilm, ac i’r cast a’r criw byddar.

Am yr ymgyrch

Mi fydd yr ymgyrch yn cael dylanwad dros bum cyfnod dros y tair blynedd nesaf.

Ysbrydoli pobl ifanc

Byddwn yn cynnal gweithdai, creu rhaglen profiad gwaith ac adeiladu cymuned cyfryngau cymdeithasol i rymuso pobl ifanc. Mae ein sianeli YouTube ac Instagram sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc nawr yn fyw.

Rhoi gwybodaeth i weithwyr proffesiynol

Byddwn yn darparu gwybodaeth i Athrawon, Athrawon Plant Byddar a Chynghorwyr Gyrfaoedd i helpu gyda chynllunio gyrfaoedd, ac i addysgu myfyrwyr am eu hawliau. Cyhoeddir adroddiad ar yrfaoedd gan ein ‘Arolygwyr Ifainc’ ym Mawrth 2020 ac mi fydd adnoddau pellach ar gael ym mis Mai.

 

Cefnogi Rhieni

Byddwn yn rhoi sicrwydd i rieni fod gan eu plentyn ddyfodol disglair o’i flaen, a rhoi iddynt y cymorth sydd angen arnynt i ehangu gorwelion eu plentyn. Gall rhieni ddefnyddio ein Llinell Gymorth nawr. Mi fydd fforwm ar-lein yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2020 gydag adnoddau pellach i ddod yn yr hydref.

  

Addysgu cyflogwyr

Yn gynnar yn 2021 byddwn yn annog cyflogwyr i gyflogi eu hymgeisydd perffaith, ni waeth be fo lefel eu clyw, gydag awgrymiadau ar ymwybyddiaeth o fyddardod yn y gweithle a Mynediad at Waith.

Dylanwadu ar lywodraeth

Yn barod rydyn ni’n gweithio gyda chyrff llywodraeth leol a chenedlaethol allweddol i wella cyngor gyrfaoedd sy’n benodol i bobl fyddar, lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc byddar, a chodi ymwybyddiaeth am gynlluniau fel Mynediad at Waith.