Members area

Loading...

Register

Don't have a login?

Join us

Become a member

  • Connect with others through events, workshops, campaigns and our NEW online forum, Your Community
  • Discover information and insights in our resource hub and receive the latest updates via email
  • Access one-to-one support and tailored services which help reduce barriers for deaf children
Menu Open mobile desktop menu

Miriam yn siarad dros ei hun

Photo: Miriam gyda’i mam a’i chrwban anwes

Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae Miriam, sydd â cholled clyw ysgafn, nawr yn cofleidio ei hunigrywiaeth ac yn dysgu sut i fynegi ei hun yn annibynnol.

Cafodd Miriam (15) ddiagnosis o glust ludiog pan oedd hi’n chwech oed, ac wedi bod yn darllen gwefusau am rai blynyddoedd heb i’w theulu sylweddoli. “Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy ein bod ni heb sylweddoli am gyfnod mor hir,” medd ei Mam Ffion. “Roedden ni’n sylweddoli bod ei brawd, sy’n llafar iawn, yn siarad ar ei rhan hi.”

Er bod Miriam wedi pasio ei phrofion clyw yn yr ysgol, doedd Ffion ddim yn sicr ac yn ei chymryd hi am ragor o brofion. Ond, gan fod y teulu yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, nid oedd cael yr help a oedd angen ar Miriam yn broses syml.

“Pan aethon ni i apwyntiadau awdioleg, yn enwedig pan oedd Miriam yn iau, roedd rhaid imi gyfieithu popeth iddi,” medd Ffion. “Nawr mae hi’n hŷn ac yn deall Saesneg, dydy hyn ddim yn broblem, ond i ddechrau roedd pethau’n fwy anodd.”

Fel yr unig berson byddar yn y ei theulu, roedd Miriam hefyd yn ei chael hi’n anodd siarad i fyny am ei hanghenion gyda’r rheini a oedd yn agos ati. “Un tro, pan oeddwn i’n cerdded yn y mynyddoedd gyda fy nheulu, roedd fy modryb yn siarad â mi,” mae Miriam yn cofio. “Roedd hi’n edrych mor hapus doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod i’n gallu dweud wrthi fy mod i ddim yn ei deall hi, felly roeddwn i jyst yn gwenu a nodio fy mhen. Roedd aduniadau teulu gallu fod yn anodd – maen nhw’n swnllyd iawn a llawn sgwrsio. Roeddwn i arfer dianc i fy ystafell i guddio.”

Nawr mae Miriam yn mynychu ysgol gynradd prif ffrwd lle mai Cymraeg yw’r brif iaith. Er bod yr ysgol wedi darparu cynorthwyydd bugeiliol i helpu cyfathrebu anghenion Miriam gyda staff, mae hi’n un o’r ychydig fyfyrwyr byddar yna. “Rydw i’n mwynhau’r ysgol, ond gall fod yn anodd weithiau,” medd Miriam. “Mae rhai pobl yn anghofio bod gen i nam ar y clyw gan fy mod i ddim yn gwisgo cymhorthion clyw.”

“Er nad yw hi’n hollol fyddar, dydy hi ddim yn clywed popeth, ac mae hi’n prosesu pethau ychydig yn wahanol,” esbonia Ffion. “Mae wedi cymryd Miriam cryn amser iddi allu dweud wrth bobl, ‘Sori, dydw i ddim yn gallu eich clywed chi’, ac rydyn ni’n falch iawn ei bod hi wedi cyrraedd y fan hon nawr.”

Nawr mae Miriam yn teimlo ei bod hi’n gallu gofyn i’w ffrindiau am help yn y dosbarth. “Mae fy ffrindiau wir yn gefnogol,” medd hi. “Os ydw i’n bell i ffwrdd o’r athro neu dydw i ddim yn clywed rhywbeth, rydw i’n teimlo’n ddigon cyfforddus i ofyn iddyn nhw beth a ddywedodd yr athro, ac maen nhw’n hapus i esbonio imi.”
“Y blinder o fod gyda phobl yw’r brif broblem nawr”, ychwanega Ffion. “Mae hi’n dod adref wedi blino’n lân ar ôl oriau o wrando’n astud a cheisio dehongli’r hyn y mae pobl yn ei ddweud.”

Er mwyn datgywasgu ar ôl ysgol, mae Miriam yn treulio amser ar ei phen ei hun yn chwarae gyda’i Nintendo Switch neu ei chrwban Blaidd. “Gall ddod yn llethol,” medda Miriam. “Mae gwneud rhywbeth rydw i’n ei fwynhau yn helpu.”

Mae Miriam hefyd yn sianelu ei hangen am amser tawel i ddiddordebau creadigol, weithiau gan dreulio oriau yn ei hystafell yn creu ffilmiau animeiddio stop. Mae hi nawr yn astudio TGAU mewn Drama, Technoleg Bwyd a Thechnoleg Dylunio gyda’r gobaith o ddilyn gyrfa mewn ffilm.

“Byddaf i wir yn hoffi gweithio mewn ffilm a’i astudio yn y brifysgol,” medd Miriam. “Roeddwn i am fod yn actor, ond nawr byddai’n well gen i adeiladu setiau y tu ôl i’r llenni. Mae yna sianel deledu Gymraeg a byddai’n cŵl gweithio yna.”

Mae hunaniaeth Gymreig Miriam a’i gallu i siarad dwy iaith wedi’i helpu hi mewn ffyrdd eraill hefyd. “Mae bod yn deulu Cymreig, bod yn lleiafrif yn y DU, yn eich gwneud chi’n fwy ymwybodol o ddiwylliannau eraill,” medd Ffion. “Diolch i’n cefndir ni, rydyn ni’n wahanol. Mae cael gwahaniaeth ychwanegol heb ddrysu Miriam, mae wedi’i gwneud hi’n fwy agored.”

“Mae gwybod mwy nag un iaith yn fantais,” medd Miriam. “Efallai ei bod ychydig yn fwy o her os ydych chi’n fyddar, ond yn bendant dylech chi fynd amdani a dysgu iaith wahanol. Mae’n ddefnyddiol iawn am eich dyfodol a’ch bywyd yn gyffredinol.”
Er ei bod hi yng nghanol pobl sy’n siarad Cymraeg drwy’r dydd yn yr ysgol, mae mynychu ysgol prif ffrwd yn golygu bod Miriam ddim yn adnabod unrhyw bobl ifanc byddar eraill. Felly penderfynodd hi fynychu digwyddiadau a theithiau preswyl gyda’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, gan wneud ffrindiau gyda phobl ifanc byddar eraill, gan gynnwys y rheini sy’n siarad Cymraeg.

“Mae clywed bod pobl eraill yn cael yr un heriau â mi yn ddefnyddiol,” medd Miriam. “Rydw i’n gallu clywed am eu profiadau a dysgu oddi wrthyn nhw, ac yn gallu rhannu fy mhrofiadau i gyda nhw hefyd.”

Mae cwrdd â phobl eraill sy’n debyg iddi wedi codi ei hyder. Y llynedd sylweddolodd y teulu hwn pan aeth Miriam ar gwrs dringo creigiau a siaradodd hi â’r hyfforddwr o flaen llaw i’w wneud yn ymwybodol o’i byddardod. “Cyn hynny, byddwn i neu fy ngŵr wedi gwneud hyn iddi,” esbonia Ffion. “Wrth i Miriam ddod yn hŷn, mae hi’n cofleidio’r annibyniaeth hon ac mae ganddi fwy o hyder.”

“Rydw i’n llenwi’r bylchau o hyd pan fydd pobl yn siarad,” medd Miriam. “Y peth anoddaf yw ceisio deall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud. Os ydw i’n camddeall, weithiau rydw i’n teimlo ychydig yn dwp ond rydw i wedi dysgu i’w gofleidio a chwerthin gyda phawb arall. Mae’n her, ond hefyd weithiau mae’n torri’r garw – mae’n bosib chwerthin gyda phobl pan fyddwch chi’n eu cam-glywed nhw.”

Mae Miriam hefyd wedi defnyddio’i phrofiadau yn yr ysgol i helpu eraill gan ymuno â Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc (YAB). y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. “Roeddwn i wir am wneud gwahaniaeth mewn bywydau pobl ifanc byddar,” medd hi. “Rydyn ni’n ymgyrchu dros ymwybyddiaeth o fyddardod mewn ysgolion, ac rydw i wir yn mwynhau. Rydw i’n credu y byddai ysgolion Cymraeg yn elwa ohono, ac rydw i’n dod â phrofiadau o ysgol Gymraeg i’r YAB hefyd.”