Ymwybyddiaeth o Fyddardod i Gynghorwyr Gyrfaoedd yng Nghymru
Bydd y modiwl e-ddysgu di-dâl hwn yn rhoi i chi gyflwyniad i ymwybyddiaeth o fyddardod ac yn eich helpu chi i sicrhau bod eich sesiynau yn hygyrch i bobl ifanc byddar. Hefyd bydd yn amlinellu pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth ddarparu cyngor gyrfaoedd i bobl ifanc byddar. Bydd yn cymryd tuag awr i’w gwblhau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y modiwl e-ddysgu hwn byddwch chi’n gallu:
- Disgrifio beth a olygir gan fyddardod a sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl ifanc byddare.
- Esbonio sut i ymestyn allan at blant a phobl ifanc byddar a’u hannog nhw i gael mynediad at gyngor gyrfaoedd.
- Adnabod ystyriaethau allweddol wrth gyflwyno cyngor gyrfaoedd i bobl ifanc byddar.
Ar gyfer pwy ydy’r e-ddysgu hwn?
Mae’r modiwl e-ddysgu hwn wedi cael ei greu yn benodol ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd yng Nghymru.
Tystysgrif cyflawniad
Unwaith i chi gwblhau’r, byddwch chi’n gallu cael mynediad at eich tystysgrif.
Cost
Mae'r modiwl hwn yn rhad ac am ddim.
Barod i gofrestru?
• Cliciwch y botwm isod.
• Cewch eich cyfeirio at ein porth hyfforddi lle bydd rhaid ichi gofrestru neu fewngofnodi (yn dibynnu ar a ydych chi wedi cwblhau hyfforddiant gyda ni yn y gorffennol).
• Noder: Mae’r manylion mewngofnodi i’n porth hyfforddi yn wahanol i’r manylion mewngofnodi rydych chi’n eu defnyddio os ydych chi’n aelod o’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y modiwl hwn neu yn cael unrhyw broblemau yn cael mynediad at y wybodaeth, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at [email protected].